A oes gennych chi syniad newydd a allai helpu i drawsnewid sut rydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru?
Teitl galwad Rhaglen Enghreifftiol Bevan eleni yw Cyflawni Newid Gyda'n Gilydd ac yn herio ymgeiswyr i ddatblygu arloesol atebion i oresgyn problemau sy’n wynebu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ar hyn o bryd. Anogir ceisiadau i’r rhaglen eleni ar sail y themâu craidd a amlinellir isod, sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a GIG Cymru:
- Cefnogi atal, diagnosis cynnar a thriniaeth (yn enwedig mewn perthynas â Chanser)
- Mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ac iechyd menywod
- Trawsnewid gofal ar gyfer y rhai sydd â chyflyrau hirdymor (er enghraifft Diabetes a Chlefyd Cardiofasgwlaidd).
- Cefnogi pobl hŷn, eiddilwch ac atal cwympiadau
a Model Iechyd a Gofal Sylfeini’r Dyfodol Comisiwn Bevan (gwybodaeth bellach yma: Y Sylfeini ar gyfer Model Iechyd a Gofal y Dyfodol yng Nghymru):
- Adeiladu pobl a chymunedau gwydn a dyfeisgar
- Lleihau gwastraff ar draws iechyd a gofal cymdeithasol
- Integreiddio gofal a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau
- Defnyddio data a thechnoleg i gefnogi newid systemau
Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau eraill sy'n gyson â blaenoriaethau eich sefydliad.
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 11.59pm ar 14th Gorffennaf 2024
Sesiynau briffio
Canllawiau Gofal Cymdeithasol
Am Enghreifftiau Bevan
Mae Rhaglen Enghreifftiol Comisiwn Bevan yn cefnogi gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol i gymryd eu syniadau gofal iechyd darbodus gwych a’u rhoi ar waith. Mae ein rhaglen 12 mis yn darparu hyfforddiant a mentoriaeth i lywio meddwl a datblygu sgiliau fel y gall Enghreifftiau drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal o'r tu mewn, gan gael effeithiau cadarnhaol ar ofal cleifion, profiadau bywyd, canlyniadau iechyd ac ar effeithlonrwydd gwasanaethau.