Comisiwn Bevan, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Richard Newton Consulting
Mai 2022
Mae'r adroddiad hwn yn gydymaith i Gwerthoedd a Gwerth Gwirfoddoli – Ein Hased Cudd.
Ar adeg pan fo angen i’n system gofal iechyd symud o wasanaethau acíwt i atal ac o’r ysbyty i’r gymuned, mae angen cyfraniad y trydydd sector yn fwy nag erioed.
Mae’r papur hwn yn archwilio cryfderau a chyfraniadau unigryw sefydliadau’r trydydd sector, gan amlygu eu hystwythder, eu gwydnwch, a’u cysylltiadau cymunedol dwfn. Drwy ddatblygu mwy o gydweithio â gwasanaethau statudol, gall y trydydd sector ysgogi gwelliannau sylweddol mewn iechyd a llesiant ledled Cymru. Darganfyddwch sut y gall y bartneriaeth hon arwain at atebion arloesol, ymyriadau cynnar, a dull mwy integredig o ddarparu gofal iechyd.